Gwaith

Mae gan cyflogwyr mawr lleol fel Cyngor Sir Ceredigion, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru, y prifysgolion a Bwrdd Iechyd Hywel Dda gynlluniau ar gyfer yr iaith Gymraeg, sy’n hyrwyddo a chefnogi’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.

Os ydych chi’n gweithio i un o’r mudiadau yma, gall eich cyflogwr helpu chi i ddysgu Cymraeg. Bydd nifer o hysbysiadau swyddi yn cofnodi fod angen sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd, gyda chyfleoedd amrywiol ar gyfer gweithwyr dwyieithog.

Ar gyfartaledd mae pobl dwyieithog yn ennill cyflog rhwng 8 a 10% yn fwy, oherwydd eu gallu i weithio mewn dwy iaith, yn ôl ymchwil Dr. Colin Baker gyda Prifysgol Bangor. Mae tua 40% o hysbysiadau swydd yng Nghymru yn gofyn am y gallu i siarad Cymraeg a Saesneg.

Mae dwyieithrwydd yn feunyddiol yn y sector breifat, gan fod llawer o gwsmeriaid yn gwerthfawrogi busnesau sy’n marchnata eu gwasanaethau yn ddwyieithog, neu sy’n gallu cynnig gwasanaeth dwyieithog i’w cwsmeriaid. Yn ôl ymchwil gan Cyngor ar Bopeth yn 2015, dywedodd 83% o siaradwyr Cymraeg eu bod yn fwy tebygol o aros yn gwsmer gyda chwmni sy’n darparu gwasanaeth Cymraeg da.

Rhedeg busnes dwyieithog

Gall Cered gynnig cyngor am y gefnogaeth sydd ar gael i help busnesau i gynyddu eu gwasanaethau Cymraeg.

O 2017 hyd at 2019, mae gan Cered Swyddogion Datblygu yn gweithio ar brosiect Cymraeg yn y Gweithle.  Mae’r prosiect yma yn gallu cynnig cyngor a chefnogaeth i gyflogwyr, perchnogion busnes, mudiadau lleol a gweithwyr sydd am gynyddu eu gwasanaethau neu sgiliau iaith Gymraeg.

Os ydych chi’n rhedeg busnes yng Ngheredigion, ac am ystyried cynyddu eich gwasanaethau dwyieithog, cysylltwch gyda Cered: Menter Iaith Ceredigion.