Cymuned

Bydd gweithgareddau cymunedol yn nhrefi a phentrefi Ceredigion yn aml yn cylchdroi o gwmpas neuaddau tref a phentref, yn ogystal â chlybiau a mudiadau lleol. Holwch o gwmpas yn lleol, neu edrychwch ar fyrddau gwybodaeth i ddarganfod mwy am weithgareddau sydd ar gael yn eich ardal chi.

Gallwch ddarganfod gwybodaeth am ddosbarthiadau a gweithgareddau iaith Gymraeg rheolaidd ar gyfer plant a phobl ifanc y sir ar wefan Cered.

Trefi Ceredigion

Mae chwech prif dref yng Ngheredigion. Ar hyd yr arfordir mae Aberteifi, Aberaeron a Aberystwyth, tra bod trefi mewndirol Llambed, Tregaron a Llandysul yn ganolfannau hanes a diwylliant lleol, ac yn cynnig gwasanaethau lleol a siopa.

Aberteifi

Bu Aberteifi yn ganolfan diwydiant morol ac adeiladu llongau ffyniannus. Adnabyddir Castell Aberteifi fel lleoliad yr Eisteddfod gyntaf yn y 12fed ganrif. Cafodd y Castell ei adfer yn ddiweddar, ac mae cyrchfan ymwelwyr newydd Aberteifi ynghanol tref sydd wedi ei hadfywio ac yn awr yn cynnwys ystafelloedd arddangos, llety a chaffi.

Ceir nifer o siopau a bwytai annibynnol yn Aberteifi, ac mae Neuadd y Dref yn cynnal marchnad lleol, arddangosfeydd celf a chrefft, a digwyddiadau cymunedol.

Yn Theatr Mwldan mae yna tair sgrin sinema digidol, gofod arddangos celf, ac amrywiaeth o ddigwyddiadau byw, gan gynnwys darllediadau byw o operâu, dramâu a digwyddiadau cenedlaethol arall.

Aberystwyth

Aberystwyth oedd lleoliad cyntaf Prifysgol Cymru, ac yn gartref i Lyfrgell Cenedlaethol Cymru ers 1916. Lleolir y Llyfrgell Cenedlaethol ar Rhiw Penglais, ac mae’n cynnig golygfeydd bendigedig o Aberystwyth a Bae Ceredigion. Mae’r Llyfrgell yn cadw dros 6 miliwn o lyfrau a phapurau newydd, 7 miliwn troedfedd o ffilm, 250,000 awr o fideo, 1.5 miliwn o fapiau, a llawer mwy. Mae’n cynnal cyflwyniadau diwylliannol ac arddangosfeydd, ac mae yna siop a chaffi ar gyfer ymwelwyr.

Mae Amgueddfa Ceredigion yng nghanol Aberystwyth. Mae mynediad am ddim, a dewch o hyd i gasgliadau parhaol a dros dro, sy’n edrych ar dreftadaeth, diwylliant a’r celfyddydau yng Ngheredigion.

Aberaeron

Pentref bychan oedd Aberaeron ar ddechrau 19eg ganrif, a gafodd ei gynllunio a’i ddatblygu gan y Parchedig Alban Gwynne yn 1805. Ceir nifer o siopau annibynnol yn Aberaeron, ac mae’n leoliad ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau cyhoeddus ar hyd y flwyddyn.

Ym mhentref Felinfach gerllaw, yn Nyffryn Aeron, mae Theatr Felinfach  yn theatr cymunedol sy’n cynnal cynyrchiadau theatr Cymraeg, cyngherddau a gweithgareddau i blant a phobl ifanc. Mae’r grŵp iaith Gymraeg ‘Hwyl a Hamdden’ ar gyfer pobl hŷn yn cwrdd yn y theatr yn wythnosol.

Mae’r iaith Gymraeg yn chwarae rhan ganolog ym mywyd cymunedol yng Ngheredigion, gyda papurau bro yn cael eu cyhoeddi trwy gydol y flwyddyn. Gallwch ddod o hyd i’ch papur bro lleol chi ar wefan Cered.

Mudiadau cymunedol iaith Gymraeg

Mae’r Urdd  yn trefnu gweithgareddau chwaraeon a diwylliannol o’r ifanc iawn hyd at 25 mlwydd oed. Sefydlwyd yr Urdd yn 1922, ac mae ganddi bedwar canolfan llety yng Nghymru, gydag un o’r rhain, Llangrannog, yng Ngheredigion. Ceir gweithgareddau hamdden amrywiol, gan gynnwys merlota a saethyddiaeth, ac mae gan Canolfan Llangrannog llethr sgïo sych ei hun. Gellir gweld manylion gwasanaethau’r Urdd ar y wefan, gan gynnwys gweithgareddau yng Ngheredigion.

Clwb cymdeithasol iaith Gymraeg ar gyfer menywod o bob oedran yw Merched y Wawr, gyda dros 280 o ganghennau yng Nghymru, a 34 o’r rhain yng Ngheredigion. Estynnir croeso cynnes i ddysgwyr Cymraeg.

Mae Clybiau Ffermwyr Ifanc yn bodoli trwy Gymru, ac mae 21 clwb yng Ngheredigion. Mae clybiau lleol yn trefnu digwyddiadau ar gyfer pobl ifanc rhwng 10 a 26 mlwydd oed, gan gynnwys chwaraeon, perfformiad, hyfforddiant a siarad cyhoeddus.