Croeso

Welcome

Croeso i Geredigion, sy’n gartref i gymuned bywiog dwyieithog. Os ydych chi’n newydd i’r ardal, hoffwn estyn croeso cynnes i chi, a chynnig cyflwyniad i hanes a ddiwylliant y sir. Dyw e ddim i gyd yn hanes. Mae gan Ceredigion adnoddau bendigedig, mewn hamdden ac addysg, gyda perlau diwylliannol a digonedd o ddiwrnodau allan i’r teulu. Cewch chi ddigon o gyfleoedd i fwynhau a chymryd rhan mewn digwyddiadau lleol, o wyliau bwyd i’r carnifal, clybiau chwaraeon lleol a nosweithiau cerddoriaeth, arddangosfeydd celf a darllediadau byw o ddigwyddiadau cenedlaethol.

Eich cartref newydd

O lethrau garw gwyntog Mynyddoedd yr Elenydd, yng nghalon tirwedd y barcud coch, i’w trefi a phentrefi arfordirol swynol, mae Ceredigion yn leoliad hardd a hanesyddol, gydag ystod o weithgareddau i’r hen a’r ifanc. Yn y mewndir mae trefi marchnad hanesyddol Llambed, Llandysul a Thregaron yn arwydd o bwysigrwydd amaethyddiaeth i hanes y sir. Mae gan bob un ei chymeriad ei hun, gyda siopau, caffis a thafarnau lleol i’w archwilio. Pam na ewch chi i dreulio ychydig o amser yn eich llyfrgell lleol i ddarllen mwy am hanes eich ardal, i fenthyg nofel newydd, neu i edrych ar y bwrdd gwybodaeth i weld beth sy’n digwydd yn eich ardal chi?

Pethau i’w gwneud

O gerdded i ferlota, ac amrywiaeth eang o weithgareddau a chlybiau chwaraeon, mae digon i’w wneud yn yr awyr agored. Rydych chi byth yn bell o’r arfordir yng Ngheredigion, ac mae Llwybr Arfordirol Ceredigion yn ymestyn o Aberteifi i aber yr afon Dyfi yn y twyni yn Ynyslas. Rhwng Aberporth a Tresaith, mae darn o’r llwybr yn addas i gadeiriau olwyn a cherddwyr llai abl. Lle bynnag yr ydych chi’n byw yn y sir, bydd yna lwybrau cerdded i chi eu troedio. Gallwch ddarganfod mwy am yr ystod eang o lwybrau cerdded, a cyfoeth o wybodaeth cyffredinol am y sir, ar wefan Darganfod Ceredigion.

Diwylliant a Chymdeithasau Lleol

Bydd nifer o ddigwyddiadau diwylliannol yn y theatrau a chanolfannau celfyddydau lleol. Gallwch weld fwy o wybodaeth am rhain wrth wasgu ar y botwm ‘Cymuned.’ Mae papurau bro a phapurau lleol yn ffordd dda i weld beth sy’n digwydd yn eich ardal chi. Ceir cymdeithasau sy’n gweithredu trwy’r Gymraeg ar gyfer pobl ifanc, fel yr Urdd a Chlybiau Ffermwyr Ifanc, yn ogystal â mudiadau i oedolion, fel canghennau lleol Merched y Wawr i fenywod, clybiau i ddysgwyr Cymraeg, a nifer o glybiau lleol arall. Holwch pobl leol, neu edrychwch ar fyrddau gwybodaeth cyhoeddus, er mwyn darganfod gweithgareddau neu digwyddiadau yn eich ardal chi. Medrwch ddod ar draws amryw o  siopau diwylliant Cymraeg yn Aberystwyth, Aberteifi, Llambed, Tregaron a Llandysul. Bydd rhain yn cadw amrywiaeth o eitemau iaith Gymraeg a Saesneg am Gymru, a gall ddysgwr yr iaith hel deunydd i’w helpu i ddysgu’r Gymraeg.  

Sir Dwyieithog

Bu’r sir yn  ganolog i ddiwylliant iaith Gymraeg ers hydoedd, a byddwch yn gweld a chlywed yr iaith ar hyd y sir, ar y strydoedd ac yn y siopau lleol. Dywedwch ‘Shwmae’ fel man cychwyn ar gyfer derbyn gwasanaeth Cymraeg. Yn ôl cyfrifiad 2011, mae tua hanner y boblogaeth yn siarad Cymraeg yng Ngheredigion. Caiff yr iaith ei defnyddio yn y gweithle, mewn addysg ac yn y cartref. Mae’r iaith hefyd yn rhan hanfodol o gymunedau lleol, mudiadau, clybiau a chymdeithasau’r sir. Bydd plant yn dysgu’r Gymraeg mewn meithrinfeydd ac ysgolion, gan gynnwys plant sydd ddim yn dod o gartref iaith Cymraeg. Bydd plant yn profi’r iaith fel rhan o addysg dwyieithog, ac yn gallu astudio hyd at lefel gradd trwy gyfrwng y Gymraeg. Os yw eich plant chi yn dysgu Cymraeg, maen nhw’n meithrin gallu gwerthfawr fydd yn eu helpu i deimlo cysylltiad gyda’r gymuned, sy’n gallu arwain at gyfleoedd ychwanegol mewn addysg, gwaith ac wrth gymdeithasu. Ar gyfer oedolion, mae cyrsiau addysg i oedolion i ddysgu Cymraeg, a chyfleoedd mwy anffurfiol sy’n defnyddio technolegau newydd ar gael. Mae dysgu’r iaith yn ffordd i gyfarfod pobl, i ddod o hyd i gyfleoedd newydd yn y gweithle, yn gymdeithasol, ac er mwyn dangos cefnogaeth i’r diwylliant lleol.  Dewch o hyd i fwy o wybodaeth ar y dudalen ‘Cymraeg.’